ae twrnai sy’n ymgeisio am le yng Ngoruchaf Lys yr Unol Daleithiau, wedi gwadu cyhuddiadau o ymosod a chamymddwyn rhywiol.

Mae Brett Kavanaugh wedi’i gyhuddo o ymosod ar ddynes mewn parti pan yn ei arddegau, ac o ddinoethi o flaen dynes arall tra’n coleg.

Ond, mewn cyfweliad â Fox News mae’r gŵr wedi dweud nad oedd yn y parti o gwbl, a’n wfftio’r cyhuddiad ei fod wedi dinoethi.

“Dw i erioed  wedi gwneud y fath beth,” meddai. “Petasai’r fath beth wedi digwydd, byddai pawb ar y campws wedi siarad am hynny.”

Bydd Brett Kavanaugh yn rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Barnwriaeth y Senedd ar dydd Iau (Medi 27).