Mae’r corff sy’n goruchwylio etholiad arlywyddol yn y Congo, wedi cyhoeddi y bydd 21 o bobol yn sefyll ar Ragfyr 23.

Mae’r rhestr o bobol sy’n awyddus i olynu Joseph Kabila yn cynnwys o leia’ bedwar arweinydd gwrthbleidiau yn y wlad.Mae’r arlywydd wedi bod yn ei swydd ers 2001.

Mae Emmanuel Ramazani Shadary yn sefyll yn enw plaid Joseph Kabila, ac am fynd benben â’r gwleidyddion Felix Tshisekedi, Vital Kamerhe, Martin Fayulu a Freddy Matungulu.

Dyw hi ddim yn glir eto a fydd y gwrthbleidiau yn dod at ei gilydd ac yn cefnogi un ymgeisydd.

Mae etholiadau wedi cael eu gohirio ers 2016, ac mae Joseph Kabila wedi cael ei gyhuddo o geisio dal gafael mewn grym.