“Mae’r storm yma’n fwystfil. Mae’n fawr ac yn ffyrnig … Peidiwch â pheryglu’ch bywydau a cheisio mynd benben â’r bwystfil yma.”

Dyna rybudd y Llywodraethwr Roy Cooper i’w dalaith, wrth i storm anferthol ymlwybro’n agosach at Ogledd Carolina, yr Unol Daleithiau.

Mae disgwyl i’r ddwy Carolina – Gogledd a De – a thalaith Virginia gael eu heffeithio, a bellach mae “stad argyfwng” mewn grym yn y tair man.  

Yn ôl y Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol bydd storm Florence yn achosi “llifogydd sydyn a sylweddol a allai beryglu bywydau.”

Ac mae’r Canolfan Corwyntoedd Cenedlaethol yn credu bydd y storm yn un Categori 5, sy’n golygu bydd yna wyntoedd 157 milltir yr awr neu gryfach.

Mae 1.7 miliwn o bobol sy’n byw mewn ardaloedd risg uchel wedi cael eu cynghori i adael eu cartrefu cyn i’r storm daro dydd Iau a dydd Gwener (Medi 13 ac 14).