Mae daeargryn sy’n mesur 6.9 ar raddfa Richter wedi taro cyrion Seland Newydd.
Fe darodd Ynysoedd Kermadec, sydd oddeutu 480 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Auckland.
Yn ôl yr awdurdodau, dydyn nhw ddim yn disgwyl tswnami ar draws y Môr Tawel, oedd wedi dioddef daeargryn 6.5 ar raddfa Richter ger Ynysoedd Solomon yn gynharach
Does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi cael ei anafu, na chwaith fod difrod i eiddo.
Mae daeargrynfeydd yn gyffredin yn yr ardal.