Mae’r esgob oedd wrth y llyw yn angladd y gantores Aretha Franklin wedi ymddiheuro ar ôl sarhau’r gantores Ariana Grande ac ymddwyn yn amhriodol tuag ati yn ystod y gwasanaeth.

Perfformiodd y gantores Hisbaenaidd y gân (You Make Me Feel Like) A Natural Woman yn ystod y gwasanaeth, a chael ei chroesawu’n drwsgwl i’r llwyfan gan yr esgob.

Mae lluniau ers yr angladd yn dangos yr esgob yn dal Ariana Grande wrth ei chyfarch, a’i fysedd yn gwasgu ochr ei chorff.

Yn dilyn yr angladd, dywedodd yr esgob, “Fyddwn i fyth yn bwriadu cyffwrdd â bronnau unrhyw ddynes… wn i ddim, am wn i fe wnes i roi fy mraich o’i chwmpas. Efallai fy mod wedi croesi’r llinell, efallai fy mod yn rhy gyfeillgar ond unwaith eto, rwy’n ymddiheuro.”

Cofleidio

Ond wrth amddiffyn ei ymddygiad, dywedodd yr esgob iddo gofleidio pob un o’r perfformwyr yn yr angladd, oedd wedi para wyth awr.

“Dyna’r hyn ry’n ni’n ei wneud yn yr eglwys. Cariad yw popeth i ni.

“Y peth diwetha’ rwy am ei wneud yw tynnu sylw oddi ar y diwrnod hwn. Mae’r cyfan yn cylchdroi o amgylch Aretha Franklin.”

Jôc am enw Ariana Grande

Ac fe fu’n rhaid i’r esgob ymddiheuro unwaith eto am wneud jôc amhriodol am enw Ariana Grande yn ystod y gwasanaeth.

Dywedodd iddo weld ei henw ar raglen y gwasanaeth, a chredu mai eitem newydd ar fwydlen Taco Bell oedd ‘Ariana Grande’.

Dywedodd ei fod am ymddiheuro “wrth Ariana a’i chefnogwyr ac i’r gymuned Hisbaenaidd gyfan”, ond fe wnaeth e amddiffyn ei hun drwy ddweud ei fod e wedi ceisio “cadw’r cyfan yn fywiog a dweud ambell jôc fan hyn a fan draw”.

Ond cafodd Ariana Grande hithau ei beirniadu hefyd am wisgo sgert fer ar gyfer yr achlysur, gyda rhai yn dweud bod ei gwisg yn anaddas ar gyfer gwasanaeth yn yr eglwys.