Kiwayu Safari Village yn Kenya. Llun: Africapoint
Mae dyn o Kenya sydd wedi ei ddal mewn cysylltiad â lladd gŵr o Brydain a herwgipio ei wraig, oedd ar wyliau yn y wlad, wedi dweud wrth y llys ei fod wedi cael ei orfodi i fod yn rhan o’r cynllwyn.

Yn ôl y dyn, oedd yn gweithio yn y gwesty moethus ar y pryd, cafodd ei fygwth â dryll gan y criw, a’i orfodi i’w tywys drwy’r gwesty.

Cafodd David Tebbutt, 58, ei ladd yn yr ymosodiad yn gynharach yn y mis. Cafodd ei wraig Judith ei herwgipio ac mae hi’n dal ar goll.

Yn ôl dau sy’n honni i fod yn fôr-ladron o Somalia, mae Judith Tebbutt bellach yn cael ei chadw’n gaeth yn nhref Amara yn Somalia, i’r gogledd o gadarnle’r môr-ladron yn Haradhere.

Yn ôl y ddau, Bile Hussein a Hassan Abdi, mae ganddyn nhw ffrindiau ymhlith y criw sy’n dal y ddynes 56 oed yn gaeth.

Ymosododd y criw ar y cwpwl ar eu noson gyntaf yng nghanolfan wyliau moethus y Kiwayu Safari Village, sydd rhyw 30 milltir o’r ffin â Somalia.

Mae’r gwesty, sy’n boblogaidd gydag enwogion, yn cynnwys 18 bwthyn wedi eu lleoli ar hyd y traeth.

Daeth o leia’ chwe dyn arfog i ystafell y cwpwl a saethu David Tebbutt cyn llusgo’i wraig i lawr y traeth a’i gorfodi i fynd ar eu cwch, meddai’r heddlu.

Mae Kololo, a oedd yn arfer gweithio yn y gwesty, wedi ei gyhuddo o herwgipio a lladrata treisgar.

Dywedodd wrth y llys llawn ar ynys Lamu fod y criw o ddynion arfog wedi dal gwn ato a’i orfodi i’w harwain o gwmpas y gwesty.

Mae’n mynnu iddo fynd yn wirfoddol at yr heddlu y diwrnod wedyn er mwyn dweud wrthyn nhw am y drosedd.

Mae disgwyl i 14 o bobol roi tystiolaeth yn ystod yr achos, cyn i’r llys wedyn mynd ymlaen i ystyried achos ail ddyn yn yr achos, Issa Sheck Saadi.