Mae o leia’ 22 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i gwch suddo wrth groesi afon Nîl yn y Swdan.

Yn ôl adroddiadau, roedd y meirw yn cynnwys 21 o ddisgyblion ysgol ac un ddynes a oedd yn teithio ar y cwch yng ngogledd y wlad.

Mae lle i gredu bod y cwch wedi suddo o ganlyniad i broblemau technegol.

Roedd tua 40 o ddisgyblion yn bresennol, gyda’r cwch yn eu cludo i’r ysgol.