Mae timoedd achub yn parhau i archwilio gweddillion pont a chwalodd yn yr Eidal ddoe ac mae arbenigwyr wedi dechrau ystyried pam y digwyddodd y trychineb.

Mae o leia’ 35 o bobol wedi marw ar ôl i’r bont 150 troedfedd o uchder ddyimchwel yn ystod storm yn ninas Genoa, ar adeg o draffig trwm.

Mae disgwyl i nifer y meirw gynyddu, tra bod tua 15 o bobol wedi’u hanafu, yn ôl yr awdurdodau.

Mae Prif Weinidog yr Eidal, Giuseppe Conte, eisoes wedi ymweld â’r ddinas yng ngogledd y wlad, ac wedi dweud bod y digwyddiad “glwyf difrifol i Genoa, Liguria a’r Eidal.”

Yr achos?

Mae pryderon eisoes ar led ynghylch cyflwr adeiladau eraill yn yr Eidal, yn enwedig ei phontydd concrid a gafodd eu hadeiladu yn ystod y 1950au a’r 1960au.

Roedd y bont yn Genoa yn 51 mlwydd oed, ac er nad oes cadarnhad eto ynglŷn â beth a achosodd iddi syrthio, mae Gweinidog Trafnidiaeth y wlad, Danilo Toninelli, yn dweud bod angen i “bwy bynnag a wnaeth gamgymeriad, dalu”.

Mae hefyd wedi cyhuddo’r Undeb Ewropeaidd o atal awdurdodau’r Eidal rhag gwario ar ffyrdd ac adeiladau cyhoeddus.