Mae 10 gwraig oedrannus wedi marw mewn n tân mewn cartref gofal yn ne Chile.

Mae’r awdurdodau yn parhau i geisio darganfod beth oedd achos y tân a gynheuodd tua 3 y bore mewn adeilad yn Chiguayante, sydd tua 320 o filltiroedd i’r de o’r brifddinas, Santigao.

Dim ond tair dynes a gafodd eu hachub o’r stafell lle roedd y tân ar ei ffyrnica’, gydag un yn cael ei chymryd i’r ysbyty.

Yn ôl llygad dystion, roedden nhw wedi clywed sŵn ffrwydrad bychan.