Mae’r achosion diweddara’ o’r feirws Ebola wedi ymledu o’r Congo i’r rhanbarth drws nesaf.

Mae’r awdurdodau yn gobeithio y bydd therapi mAb114, a gafodd ei ynysu o un o oroeswyr Ebola yn 1995, yn effeithiol yn erbyn 30 o achosion newydd yn yr ardal. Mae 14 o bobol wedi marw.

Mae cyfarwyddwr-cyffresinol Sefydliad Heddwch y Byd (WHO), Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus, yn dweud fod pump o gleifion wedi derbyn y therapi hyd yn hyn.

Mae’r feirws wedi ymledu o Ogledd North Kivu i ranbarth Ituri yng ngogledd-ddwyrain y Congo.

Mae’r gwaith o frechu pobol leol wedi dechrau ers wythnos yn Mangina a Beni.