Mae taflegrau Israel wedi taro dwsinau o dargedau yn Llain Gaza, ac mae tri o bobol wedi’u lladd.
Mewn ymateb, mae gwrthryfelwyr Palesteina wedi tanio degau o rocedi i gyfeiriad Israel, yn y dyddiau diweddaraf o drais.
Fe ddaw’r gwrthdaro diweddara’ wrth i’r Aifft geisio dod â’r ddwy ochr at ei gilydd i drafod a chytuno ar gadoediad.
Ymysg y tri o bobol diweddara’ i gael eu lladd, roedd gwraig feichiog a’i merch flwydd oed.
Ar ochr Israel, mae o leiaf saith o bobol wedi’u hanafu, yn ôl adroddiadau.