Mae awyren wedi plymio i mewn i ochr mynydd yn Alpau’r Swistir, gan ladd pob un o’r 20 o deithwyr.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ddydd Sadwrn ger Flims.

Cafodd 11 o ddynion a naw o fenywod ar fwrdd yr awyren eu lladd, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n dod o’r Swistir. Roedd un cwpwl a’u mab yn dod o Awstria.

Roedd yr awyren yn eiddo cwmni sy’n cynnig teithiau awyr mewn hen awyrennau rhyfel.

Dydy’r awdurdodau ddim yn ymwybodol o unrhyw alwadau brys a ddaeth o’r awyren cyn y gwrthdrawiad, ond mae ymchwiliad ar y gweill. Dydyn nhw ddim yn credu bod yr awyren wedi taro yn erbyn awyren arall nac i mewn i wifrau.

Does dim tystiolaeth ychwaith i awgrymu bod unrhyw un wedi tarfu ar y cerbyd na bod cydrannau ar goll neu wedi torri cyn i’r awyren blymio i’r ddaear ar gyflymdra uchel, bron yn fertigol.