Y ddamwain yn digwydd (AP Photo)
Fe gafodd tri o bobol eu lladd a 56 eu hanafu mewn damwain mewn sioe awyrennau yn Nevada yn yr Unol Daleithiau.
Roedd yna ddychryn wrth i bobol wylio hen awyren o’r Ail Ryfel Byd yn hedfan ar ei phen i mewn i’r stand ble’r oedd cannoedd o wylwyr.
Yn ôl llygad dystion, roedd cleifion a chyrff wedi’u gwasgaru ar hyd y ddaear ar ôl y gwrthdrawiad.
Roedd y peilot profiadol, Jimmy Leeward, 74, oed ymhlith y tri a fu farw – ef oedd perchennog y tîm hedfan a oedd yn cynnal sioeau cyson.
Yn ôl un o lefarwyr y gwasanaethau brys, roedd 15 o bobol wedi eu hanafu’n ddifrifol.