Mae pawb oedd ar fwrdd awyren a wnaeth blymio o’r awyr ym Mecsico, wedi goroesi’r ddamwain.

Plymiodd yr awyren mewn i gae yn nhalaith Durango ddydd Mawrth (Gorffennaf 31).

Roedd 103 o bobol ar ei bwrdd – gan gynnwys naw plentyn a dau faban – a chafodd 49 ohonyn nhw eu cludo i’r ysbyty.

Aeth yr awyren ar dân wedi iddi gyrraedd y ddaear, ac mae rhai o’r unigolion wedi llosgi tua chwarter o’u cyrff.

Er hynny, mae meddygon yn ffyddiog nad yw’r anafiadau yn angheuol.

Dyw hi ddim yn glir beth aeth o’i le, ond mae’n ddigon tebygol mai problemau technegol neu dywydd garw oedd ar fai.