Mae o leiaf 37 o bobl wedi eu lladd yn y ddeuddydd ddiwethaf wrth i law y monsŵn arwain at lifogydd a dymchwel tai yng ngogledd India.

Mae rhybudd bod rhagor o law ar y ffordd dros y 48 awr nesaf yn Uttar Pradesh – talaith fwyaf poblog India.

Dechreuodd y glaw trwm nos Iau, a bu farw’r rhan fwyaf o’r dioddefwyr ddoe yn Agra, y ddinas yng ngogledd India lle mae’r Taj Mahal.

Roedd y rhai fu farw yn cynnwys pedwar o aelodau un teulu a oedd mewn tŷ a wnaeth ddymchwel.

Mae tymor y monsŵn yn India yn parhau fel arfer tan fis Hydref.