Mae chwech aelod olaf o gwlt ‘Doomsday’ yn Japan wedi cael eu crogi i farwolaeth gan lywodraeth y wlad.

Nhw oedd yn gyfrifol am ymosodiad nwy marwol ar ffyrdd tanddaearol dinas Tokyo.

Cafodd y chwech, a oedd wedi bod yn aros am ugain mlynedd i glywed beth fyddai eu tynged, eu crogi am gyfres o droseddau yn y 1990au, gan gynnwys ymosodiad nwy sarin a laddodd 13 o bobol.

Roedd tri ar ddeg aelod o’r grŵp wedi eu dedfrydu i farwolaeth. Cafodd y saith cyntaf, gan gynnwys arweinydd y cwlt, Shoko Asahara, eu crogi dair wythnos yn ôl.