Mae arlywydd Zimbabwe yn galw ar etholwyr croenwyn y wlad i’w gefnogi mewn etholiad hanesyddol yn y wlad y mis hwn… oherwydd mae’n argoeli i fod yn agos iawn, iawn.

Mae Emmerson Mnangagwa wedi annerch cyfarfod yn y brifddinas, Harare, gan ddwed fod cyfnod y dwyn tir oddi ar ffermwyr croenwyn drosodd.

Roedd hynny’n digwydd yng nghyfnod y cyn-arlywydd, Robert Mugabe, meddai – gan wybod fod y polisi yn un hynod o amhoblogaidd ac yn gyfrifol am ddirywiad economaidd y wlad.

Dim ond tri phwynt sydd yna yn y polau piniwn rhwng Emmerson Mnangagwa a’i wrthwynebydd, Nelson Chamisa.

Mae’r ymgyrch hyd yma ar gyfer etholiad Gorffennaf 30 wedi bod yn heddychlon.