Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi gofyn i’w ymgynghorydd diogelwch i wahodd Vladimir Putin i Washington yn yr hydref.

Dywedodd ysgrifennydd y wasg yn y Tŷ Gwyn, Sarah Huckabee Sanders, y byddai John Bolton yn estyn gwahoddiad yn dilyn cyfarfod Arlywydd Rwsia yn gynharach yr wythnos hon yn y Ffindir.

Ychwanegodd bod “y trafodaethau hynny eisoes ar y gweill”..

Mae disgwyl y byddan nhw’n cyfarfod yn y Tŷ Gwyn. Dyma fyddai’r tro cyntaf i arweinydd o Rwsia ymweld â’r Tŷ Gwyn ers bron i ddegawd.

Roedd Donald Trump wedi gwrthod cynnig Vladimir Putin i ganiatáu i’r Unol Daleithiau holi 12 o bobol o Rwsia sydd wedi cael eu cyhuddo o ymyrryd yn yr etholiad yn 2016, yn dilyn beirniadaeth lem gan y Gweriniaethwyr a’r Democratiaid.

Roedd Donald Trump wedi ei ddisgrifio fel “cynnig anhygoel” – cyn gwneud tro pedol.

Yn gyfnewid am hyn, roedd Vladimir Putin eisiau caniatâd i Rwsia holi Americanwyr sydd wedi cael eu cyhuddo gan y Kremlin o nifer o droseddau gan gynnwys llygredd a thwyll.

Mae Donald Trump wedi cael ei feirniadu’n hallt am ddiystyru honiadau o ymyrraeth gan Rwsia yn yr etholiad.