Mae 90 0 bobol wedi boddi ar ôl i gwch a oedd yn cario 150 o ffoaduriaid wedi dryllio oddi ar arfordir gogleddol ynys Cyprus.

Mae criwiau achub yn chwilio am 25 o deithwyr sydd ar goll mewn ardal lle mae adroddiadau am bobol yn y dŵr.

Yn ol gwylwyr y glannau ar yr arfordir Twrcaidd, maen nhw eisoes wedi achub dros gant o bobol,  cyn mynd â nhw i Dwrci. Mae un person a gafodd ei anafu yn ddifrifol yn cael ei drin mewn ysbyty yn Nicosia yng ngogledd Cyprus.

Dyw hi ddim yn glir eto rhai o lle ydi’r ffoaduriaid. Pan ofynnwyd iddyn nhw ei ffoaduriaid oedden nhw, yr ateb oedd, “Mae’n debyg”.

Fe aeth y cwch i drafferthion tua 16 milltir i’r gogledd o Benrhyn Karpas, Cyprus.