Mae byddin Israel wedi cynnal yr ymosodiad mwyaf o’r awyr ar Gaza ers 2014.
Cafodd dwsinau o rocedi eu lansio mewn gweithred a allai arwain at ryfel fawr ar hyd y ffin.
Cafodd dau o bobol yn eu harddegau yn ninas Gaza eu lladd yn yr ymosodiad, a chafodd tri o drigolion Israel eu hanafu pan laniodd roced ar gartref preswyl.
Dywedodd Israel fod yr ymosodiad yn rhybudd i drigolion Gaza gadw draw o amryw o lefydd.
Dywedodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu y byddai’r ymosodiadau’n cael eu “cynyddu gymaint ag sydd ei angen”.
Cadoediad
Nos Sadwrn, daeth cadarnhad gan Hamas a jihadwyr fod y ddwy ochr wedi dod i gytundeb i sicrhau cadoediad.
Ond roedd rhybuddion am rocedi o hyd fore heddiw.
Mae lle i gredu bod yr ymosodiad wedi taro tua 40 o ganolfannau Hamas.
Yn gynharach, fe wnaeth awyrennau Israel ollwng pedwar bom ar adeilad ger safleoedd yr heddlu a swyddogion diogelwch yn ninas Gaza. Mae’r safleoedd yn agos i barc, lle cafodd dau o bobol yn eu harddegau eu lladd.
Protest
Ddydd Gwener, daeth miloedd o Balestiniaid ynghyd ger y ffin â Gaza ar gyfer protest.
Yn ystod y digwyddiad, cafodd llanc 15 oed ei saethu’n farw wrth geisio dringo ffens ar y ffin ag Israel, a hynny ar ôl i ffrwydryn gael ei daflu at yr heddlu, yn ôl yr awdurdodau.
Ddydd Sadwrn, dywedodd yr awdurdodau fod dyn 20 oed a gafodd ei saethu ddydd Gwener wedi marw.