Mae Ethiopia ac Eritrea wedi cefnu ar ugain mlynedd o elyniaeth, trwy gytuno i agor llysgenhadaeth yr un yn eu prifddinasoedd ei gilydd.

Mae’r ddwy wlad hefyd wedi taro bargen a fydd yn ail ddechrau hediadau awyren rhwng eu dinasoedd.

Cafodd y cytundeb ei arwyddo ym mhrifddinas Eritrea, Asmara.

Mae dinasyddion y gwledydd wedi cyfleu eu hapusrwydd trwy newid eu lluniau proffil ar gyfryngau cymdeithasol, i lun o arweinyddion y ddwy wlad yn cofleidio’i gilydd.