Llun o wifren PA
Cafodd dau o bobl eu lladd ac o leia naw eu hanafu heddiw yn dilyn tân ar long deithio yn Norwy. Mae pedwar o bobl eraill ar goll.

Cafodd naw o bobl eu cludo i’r ysbyty – roedd dau yn dioddef o losgiadau difrifol ac effeithiau anadlu mwg.

Roedd 262 o deithwyr ar fwrdd yr MS Nordlys a bu’n rhaid iddyn nhw adael y llong ar ôl i’r tân ddechrau am 9.20am bore ma cyn cyrraedd Alesund, 230 o filltiroedd o ogledd-orllewin Oslo.

Cafodd 100 o deithwyr eu cludo oddiar ar y llong mewn cychod cyn i’r llong gyraedd y porthladd.

Dywedodd cwmni Hurtigruten ASA, sy’n berchen y llong, bod wyth o’u criw ymhlith y rhai gafodd eu cludo i’r ysbyty.

Mae’r MS Nordlys yn cludo teithwyr yn ogystal â phobl leol sy’n teithio rhwng y dinasoedd arfordirol a’r trefi.