Mae’r awdurdodau yn Indonesia wedi rhoi’r gorau i geisio dod o hyd i gyrff ar waelod llyn pan suddodd fferi dros bythefnos yn ôl.

Mi aeth y fferi a oedd wedi’i wneud o bren ac yn cario dwywaith y rhif o deithwyr ag y dylai, i drafferthion ar lyn Sumatra ar Fehefin 18.

Ar y cychwyn, mi wnaeth yr awdurdodau amcangyfrif bod dros 190 o bobol ar goll, ond erbyn hyn mae ffigyrau swyddogol yn nodi bod 21 wedi goroesi’r digwyddiad, gan gynnwys capten y llong, a bod 164 o bobol ar goll.

Er gwaetha’ ymdrechion yr awdurdodau i godi’r cwch o’r dŵr, a fyddai maes o law yn dod a’r cyrff i’r lan, does gan Indonesia ddim yr offer digonol i wneud hynny.

Maen nhw’n dweud bod y rhan fwya’ o’r cyrff y tu fewn i’r cwch, sydd 450m (1,476 troedfedd) o dan y dŵr.