Mae Canghellor yr Almaen a’i chydweithwyr gwleidyddol wedi dod i gyfaddawd yn y ffrae tros fewnfudo, wedi i’r cecru fygwth dymchwel llywodraeth glymblaid yr Almaen.

Mae Angela Merkel a’r gweinidog materion cartref, Horst Seehofer, wedi bod ben-ben ers rhai wythnosau wedi iddo fynnu y dylai ffoaduriaid sydd wedi cael eu gwrthod gan wledydd eraill yn Ewrop, gael eu troi ymaith gan yr Almaen hefyd.

Ond mae Angela Merkel wedi bod yr un mor daer, yn dadlau y byddai gweithredu unochrog felly yn achosi gwledydd eraill i orfod cau eu ffiniau. Ac fe fyddai hynny, meddai, yn rhoi holl bolisi Schengen yr Undeb Ewropeaidd mewn peryg.

Ond mae’r ddau wedi dod allan o’r trafodaethau diweddaraf yn dweud eu bod wedi cytuno ar sefydlu “canolfannau trosglwyddo” ar ffin yr Almaen gydag Awstria lle bydd ffoaduriaid yn cael eu hasesu.