Mae 27 o bobl wedi marw ar ôl ymosodiad gan y Taliban yn Kabul, meddai Nato.
Ymhlith y rhai fu farw mae Heddlu Afghanistan, pobl gyffredin a gwrthryfelwyr.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yng nghanol Prif Ddinas Afghanistan.
Yn ôl Nato, mae 11 o bobl wedi marw yn yr ymosodiad – nifer ohonyn nhw’n blant. Fe gafodd pum plismon Afghan eu lladd ynghyd ag 11 o wrthryfelwyr yn yr ymosodiad a barodd am ugain awr.