Mae tribiwnlys wedi cael cyn-ddiplomydd y Fatican yn euog o droseddau rhyw, ac wedi ei garcharu am bum mlynedd.

Roedd gan Carlo Capella ddelweddau anweddus o blant yn ei feddiant, ac fe wnaeth eu dosbarthu nhw.

Dyma’r tribiwnlys cyntaf o’i fath erioed yn y Fatican.

Fe gyfaddefodd ei fod e wedi edrych ar y delweddau yn ystod cyfnod pan oedd e dan straen wrth i swyddi gael eu symud i lysgenhadaeth y Fatican yn Washington.

Plediodd Carlo Capella am ddedfryd drugarog, gan ddatgan ei ddymuniad i barhau yn ei swydd.

Ond fe glywodd y tribiwnlys iddo barhau i edrych ar y delweddau ar ôl cael dychwelyd i’r Fatican yn 2017.