Mae dyn gyda chyllell wedi trywanu dau o bobol i farwolaeth, ac wedi anafu nifer o bobol eraill, mewn mosg ger Cape Town yn Ne Affrica.

Fe gafodd yr ymosodwr ei saethu’n farw gan yr heddlu yn dilyn y digwyddiad yn Malmesbury yn nhalaith Western Cape.

Mae Cyngor Barnwrol Mwslimaidd De Affrica yn dweud eu bod wedi’u “siglo i’w craidd” gan yr ymosodiad, ac mae’n annog pobol i beidio ag ymateb nes y bydd manylion yn cael eu cyhoeddi.

Y gred yw mai dyn yn ei 30au oedd yr ymosodwr.

“Fe anwybyddodd y gorchmynion gan yr heddlu, ac fe gafodd ei saethu a’i ladd yn y broses o geisio ymosod ar blismyn,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.