Mae arlywydd Afghanistan, Ashraf Ghani, wedi cyhoeddi cadoediad wythnos o hyd gyda’r Taliban i gyd-fynd â’r gwyliau sy’n nodi diwedd cyfnod ymprydio Ramadan yr wythnos nesaf.

Mae datganiad a anfonwyd o swyddfa’r llywydd heddiw yn dweud y bydd y cadoediad yn dechrau ar 27 Ramadan, neu Fehefin 12 yng nghalendr y Gorllewin, ac yn para trwy wyliau Eid al-Fitr tan tua Mehefin 19.

Mae’r datganiad yn dweud nad yw’r cadoediad yn cynnwys al Qaeda neu grŵp y Wladwriaeth Islamaidd.

Ni chafwyd sylw eto gan y Taliban, sydd wedi ehangu eu presenoldeb yn gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan feddiannu nifer o ardaloedd ar draws y wlad a chynnal ymosodiadau o ddydd i ddydd.