Mae disgwyl y bydd dêl niwclear Iran ymhlith y pynciau trafod, pan fydd prif weinidogion y Deyrnas Unedig ac Israel yn cyfarfod yn ddiweddarach.

Mae’r Unol Daleithiau eisoes wedi cefnu ar y ddêl gyda Tehran, ac mae Benjamin Netanyahu, Prif Weinidog Israel, wedi ennyn ar arweinyddion Ewropeaidd i wneud yr un peth.

Ond, mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, yn awyddus i gadw’r ddêl, ac yn ffyddiog ei fod yn cyfyngu ar raglen niwclear Iran.

Testun arall sy’n siŵr o godi yn ystod y trafodaethau yn Downing Street, yw’r sefyllfa yn Gaza.

Â’r llain honno dan warchae economaidd, mae pobol Gaza wedi bod yn cynnal cyfres o brotestiadau yn erbyn Israel. Gan ymateb i hyn, mae Israel wedi saethu sawl protestiwr yn farw.

Mis diwetha’, dywedodd Theresa May bod marwolaethau yma yn “trasig” a bod defnydd Israel o arfau rhyfel yn “codi pryder”.