Gyda chynhadledd Gogledd Corea a’r Unol Daleithiau yn prysur agosáu, mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â phwy fydd yn talu’r ‘bil’.

Bydd y cyfarfod rhwng arweinyddion y ddwy wlad yn cael ei gynnal mewn adeilad moethus yn Singapore, ac mae’n debyg y bydd y wlad Asiaidd honno’n talu peth o’r gost.

Ond, â hwythau’n adnabyddus am fod yn gynnil, mae yna beth ansicrwydd am awydd Gogledd Corea i ysgwyddo’u siâr nhw o’r costau.

Yn ogystal, mae adroddiadau’n awgrymu bod Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yn bwriadu helpu Gogledd Corea yn ariannol.

Fodd bynnag, mae llefarydd ar ran Adran Wladol yr Unol Daleithiau wedi gwadu hynny.