Mae enwau dau ddringwr a gafodd eu lladd tra’n dringo El Capitan ym Mharc Cenedlaethol Yosemite yn America, wedi’u cyhoeddi.
Roedd Jason Wells, 46, yn dod o Colorado, a Tim Klien, 42, o Palmdale, Califfornia.
Fe dderbyniodd wardeiniaid nifer o alwadau argyfwng 911 yn adrodd fod dau ddringwr wedi disgyn ar y llwybr sy’n cael ei alw’r ‘Freeblast Route’.
Mae ymchwiliad ar y gweill.
Dyma’r ail ddamwain angheuol yn y Parc Cenedlaethol mewn ychydig dros wythnos.
Yr wythnos ddiwethaf, fe syrthiodd heiciwr i’w farwolaeth tra’n dringo clogwyni gwenithfaen eiconig yr Half Dome.