Mae Cymraes sy’n byw yng Nghatalwnia wedi dweud wrth golwg360 ei bod yn dal yn “gyfnod o ansicrwydd” i’r rhanbarth, er gwaetha’r ffaith bod Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, wedi’i ddisodli.

Fe gafodd pleidlais o ddiffyg hyder yn llywodraeth geidwadol Mariano Rajoy ei chynnal ddoe, a hynny ar ôl i lys ganfod bod ei blaid, Partido Popular, yn gysylltiedig â sgandal llygredd.

Mae disgwyl i arweinydd yr wrthblaid fwyaf, sef y sosialydd Pedro Sanchez, ddod yn Brif Weinidog, ac fe all dyngu llw mor gynnar ag yfory.

Enillodd Pedro Sanchez gefnogaeth cenedlaetholwyr yng Ngwlad y Basg ac yng Nghatalwnia yn ystod y bleidlais o ddiffyg hyder.

Ond yn ôl Alwenna Castell, sy’n wreiddiol o Langollen ac sydd o baid annibyniaeth i Gatalwnia, nid yw’n amser i “lawenhau” eto.

“Mi wnes i ofyn i’r gŵr ddoe a gawn ni agor potel o cavah, ac fe ddaru o ddweud, ‘na, dim eto’,” meddai wrth golwg360.

 Gobaith i’r dyfodol

 Mae Alwenna Castell yn dweud ei bod yn teimlo’n “ansicr” oherwydd teyrngarwch y Blaid Lafur yn Sbaen yn ystod y misoedd diwetha’.

“Fe aethon nhw [y Blaid Lafur] efo Rajoy, maen nhw wedi bod efo fo trwy’r amser,” meddai eto.

Ond mae’n ychwanegu bod ymadawiad Mariano Rajoy yn gwneud iddi deimlo ychydig yn fwy ffyddiog, a’i hymateb hi i’r newyddion diweddara’ yw “diolch byth”.

“Eith pethau ddim yn waeth, mae’n rhaid iddyn nhw ddod yn well.

“Ddaru Sanchez ddweud ddoe ei fod o’n mynd i siarad efo’r Catalanwyr, a ddaru Rajoy erioed siarad…

“Beth ddigwyddith rŵan i’r bobol yn y carchar? Geith Carles Puidgemont ddod yn ei ôl?”