Mae arweinydd dros dro yr Eidal wedi dweud bod “posibiliadau newydd” wedi codi yn yr ymgais i ffurfio llywodraeth yn seiliedig ar yr etholiad ym mis Mawrth.

Fe wnaeth ymdrechion yr economegydd Carlo Cottarelli i ffurfio llywodraeth “wleidyddol” fethu dros y penwythnos gydag anghytuno rhwng y pleidiau gwleidyddol wrth iddyn nhw geisio ffurfio clymblaid.

Yn dilyn mwy na deufis o drafodaethau aflwyddiannus, fe wnaeth yr arlywydd Sergio Mattarella droi at yr arbenigwr ariannol i ffurfio llywodraeth niwtral i arwain yr Eidal at etholiad cynnar.

Cododd yr ansicrwydd ofn ar fuddsoddwyr a’r marchnadoedd arian.

Ond mae Carlo Cottarelli wedi dweud bod hi’n edrych yn fwy posib y gall llywodraeth wleidyddol gael ei ffurfio ac mae’r marchnadoedd wedi gwella ychydig ers y cyhoeddiad.

Does dim mwy o fanylion ar siâp y weinyddiaeth newydd bosib ond mae o leiaf un o’r pleidiau wedi dweud mai’r unig ateb fydd parhau i gynnal etholiad cynnar.