Mae mil o bobol wedi cael eu clirio o wersyll ffoaduriaid ym Mharis, Ffrainc.

Cafodd trigolion y gwersyll eu cludo oddi yno mewn bysus a’i gosod mewn campfeydd, wrth i’r awdurdodau ddinistrio’r pebyll.

Mi wnaeth cannoedd o fudwyr ffoi cyn i’r awdurdodau gyrraedd.

Daw’r weithred yma gan yr heddlu, yn sgil pryderon am amodau’r gwersyll – bu farw dau berson y mis hwn, wrth foddi mewn camlesi cyfagos.

Mae 28,000 o fewnfudwyr wedi’i symud o wersylloedd ym Mharis dros y tair blynedd ddiwetha’.