Bydd Macedonia yn cynnal refferendwm tros newid ei henw yn ddiweddarach eleni.

Mae’r wlad yn rhannu ei henw â rhanbarth ogleddol Groeg, ac mae hyn wedi bod yn asgwrn cynnen rhwng y ddwy ochr ers degawdau.

I Groeg, mae’r enw’n awgrymu bod Macedonia’n hawlio’r rhanbarth.

Mae’r llywodraeth yn Athen yn addo y byddai’n rhoi’r gorau i rwystro Macedonia rhag ymuno â’r Undeb Ewropeaidd a NATO, petasai’r wlad yn newid ei henw.

Bydd y refferendwm yn cael ei chynnal naill ai ym mis Medi neu Hydref 2018.