Mae o leiaf dri o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i bont yn Kashmir chwalu.
Roedd 23 o fyfyrwyr yn tynnu lluniau ar y bont pan gwympon nhw drwyddi, yn ôl llefarydd ym Mhacistan. Maen nhw’n astudio meddygaeth yn Faisalabad.
Cafodd pump o fyfyrwyr eu hachub, ac mae timau achub yn parhau i chwilio am y gweddill.
Mae’r ardal ar y ffin rhwng India a Phacistan yn boblogaidd ymhlith twristiaid.