Fe fydd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Mike Pompeo yn manteisio ar ei ymweliad cyntaf ag Iran i alw am gosbi’r wlad tros eu defnydd o daflegrau.

Mae e hefyd yn galw ar i Saudi Arabia ddatrys anghydfod â Qatar sy’n cael ei ecsbloetio gan Iran i ehangu ei dylanwad dros yr Yemen a Syria.

Mae Mike Pompeo, cyn-bennaeth y CIA, eisoes wedi cwrdd â brenin Saudi Arabia, y brenin Salman.

Daw ei ymweliad ar ôl i wrthryfelwyr Houthi yn yr Yemen saethu taflegrau at ddinas Jizan yn Saudi Arabia, gan ladd un person. Mae Iran yn cael y bai gan America am smyglo’r taflegrau i mewn i’r Yemen.

Dadsefydlogi

Mae Iran hefyd yn cefnogi Arlywydd Syria, Bashar Assad.

Dywedodd Mike Pompeo wrth newyddiadurwyr: “Mae Iran yn dadsefydlogi’r rhanbarth i gyd.”

Ychwanegodd fod undod yn y Gwlff yn “hanfodol”.