Mae 32 o dwristiaid o Tsieina wedi’u lladd mewn “damwain ffordd ddifrifol” yng Ngogledd Corea, meddai gweinidog tramor Tsieina.

Cafodd pedwar o bobl o Ogledd Corea hefyd eu lladd a dau ymwelydd o Tsieina eu hanafu’n ddifrifol.

Fe ddigwyddodd y ddamwain nos Sul, 22 Ebrill yn nhalaith Gogledd Hwanghae, i’r de o’r brifddinas Pyongyang, yn ôl datganiad gan y gweinidog.

Mae diplomyddion o Tsieina wedi teithio i Pyongyang ac yn dweud y byddan nhw’n cyhoeddi datganiad yn ddiweddarach.

Mae’n ymddangos bod bws wedi gwyro oddi ar y ffordd.

Mae twristiaid o Tsieina ymhlith y grŵp mwyaf o ymwelwyr sy’n teithio i Ogledd Corea.