Mae awdurdodau Ffrainc wedi ailagor abaty Mont-Saint-Michel ar gyrion Llydaw ar ôl i’r safle hanesyddol poblogaidd gael ei wagio oherwydd pryderon am ddiogelwch.

Mae’n ymddangos fod ymwelydd wedi bygwth ymosod ar swyddogion diogelwch y bore yma, ond er treulio oriau yn chwilio amdano, ni chafwyd hyd iddo.

Oherwydd cyfres o ymosodiadau ar yr heddlu yn Ffrainc dros y blynyddoedd diwethaf, penderfynodd yr awdurdodau orchymyn y miloedd o ymwelwyr i adael.

Cafodd mynaich a lleianod yr abaty eu gorchymyn i aros yn yr abaty wrth i’r chwilio fynd ymlaen.

Mont-Saint-Michel yw un o safleoedd twristaidd mwyaf poblogaidd Ffrainc, sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob dydd.