Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi rhybuddio y bydd yna ymosodiad milwrol ar Syria yn fuan, trwy ddatgan fod taflegrau “ar eu ffordd”.

Mae Donald Trump wedi cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Prydain a Ffrainc er mwyn sicrhau fod y gweithredu’n digwydd ar y cyd mewn ymateb i’r ymosodiad cemegol ar dref Douma yn Syria yr wythnos ddiwethaf.

Mae Rwsia wedi rhybuddio yn erbyn gweithredu milwrol, ac mae’n dweud y bydd yn rhwystro unrhyw rocedi a fydd yn targedu Syria.

Ond mae neges ar Twitter yn ymateb i’r rhybudd, meddai Donald Trump: “Mae Rwsia wedi addo saethu i lawr unrhyw daflegryn sy’n cael ei danio at Syria. Byddwch yn barod, Rwsia, oherwydd maen nhw’n dod…”