Mae erlynwyr yn Ne Corea wedi cyhuddo y cyn-arlywydd Lee Myung-bak o lwgrwobrwyo ac o gymryd arian yn anghyfreithlon.

Fe ddaw’r cyhoeddiad dridiau wedi i’w olynydd, Park Geun-hye, gael ei dedfrydu i dreulio 24 blynedd yn y carchar am sgandal ariannol arall.

Mae swyddfa’r erlynwyr yn Seoul wedi cyhhoeddi heddiw ei bod wedi cyhuddo Lee Myung-bak o gymryd 11 biliwn won o arian (£7.3m) mewn llwgrwobrwyon gan asiantaeth ysbïo’r wlad, gan gwmni Samsung ac eraill.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o gymryd tua 35 biliwn won (£23.3m) o arian swyddogol gan gwmni preifat yr oedd yn berchen arno, ac o osgoi talu trethi corfforaethol o 3 biliwn won (£2m).

Roedd Lee Myung-bak yn un o gyfarwyddwryr cwmni Hyundai ac yn faer Seoul cyn iddo ddod yn arlywydd De Corea rhwng 2008 a 2013. Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa ers ei arestio fis diwethaf.