Mae prif weinidog Hwngari, Viktor Orban, yn dweud fod canlyniad etholiad dydd Sul – pryd mae’n ymddangos y cafodd ef a’i blaid asgell dde boblogaidd eu hail-ethol yn gyfforddus – yn “gyfle i amddiffyn” ei wlad rhag mewnfudwyr.

Mae beirniaid wedi bod yn poeni y gallai Viktor Orban a’i blaid, Fidesz, ddefnyddio trydydd tymor yn olynol i ddwysau eu hymosodiadau ar fewnfudo.

Y pryder ydi fod y wasg a’r cyfryngau annibynnol yn y wlad; ynghyd â’r llysoedd sydd wedi deddfu yn groes i ewyllys Viktor Orban; a phrifysgol sydd wedi’i sefydlu gan y biliwnydd Hwngaraidd-Americanaidd, George Soros, yn debygol o gael eu targedu.

Rydyn ni wedi creu’r cyfle i ni’n hunain amddiffyn Hwngari,” meddai Viktor Orban o flaen torf wyllt wedi ei fuddugoliaeth rwydd ddydd Sul. “Mae brwydr fawr wedi’i hennill. Mae ganddon ni fuddugoliaeth glir.”

Gyda 98.5% o’r pleidleisiau wedi’u cyfrif, mae Fidesz a phlaid y Democratiaid Cristnogol gyda’i gilydd wedi sicrhau 133 allan o 199 o seddi’r senedd – y lleiafswm sydd ei angen ar gyfer buddugoliaeth dwy ran o dair.

Y blaid asgell dde Jobbik sy’n ail gyda 26 o seddi, tra bod clymblaid asgell chwith dan arweiniad y Sosialwyr yn drydydd gyda 20 o seddi.