Mae adroddiadau bod yr heddlu wedi atal ymosodiad â chyllell yn ystod hanner marathon Berlin, a bod chwech o ddynion yn y ddalfa.

Mae lle i gredu bod un o’r dynion, oedd wedi trefnu’r ymosodiad, yn bwriadu lladd rhedwyr a gwylwyr.

Yn ôl y papur newydd Die Welt, mae’r dynion yn adnabod Anis Amri, y dyn o Diwnisia a laddodd 12 o bobol wrth yrru tryc i ganol torf ym marchnad Nadolig Berlin yn 2016.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod dynion yn y ddalfa.