Mae lle i gredu bod 14 o bobol ifanc wedi’u lladd yng Nghanada yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori a bws.

Roedd y bws yn cludo chwaraewyr hoci o dref Nipawin yn Saskatchewan yng ngorllewin y wlad pan darodd i mewn i’r lori.

Mae nifer o bobol wedi’u hanafu’n ddifrifol.

Dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau’n union faint o bobol fu farw, nac enwau’r rhai fu farw.

Mae’r gymuned leol wedi mynegi eu sioc yn dilyn y digwyddiad, ac mae prif weinidog y wlad, Justin Trudeau hefyd wedi mynegi ei dristwch.