Mae un dyn wedi cael ei ladd a phedwar wedi’u hanafu mewn cwymp eira yn yr Alpau, yn ôl timau achub yn Ffrainc.

Fe ddigwyddodd y cwymp eira yn ardal Aiguilles Rouges ger Chamonix.

Mae’r dyn a gafodd ei ladd wedi cael ei adnabod fel Dr Emmanuel Cauchy, a oedd yn adnabyddus am ei waith yn trin dringwyr oedd wedi’u hanafu.

Cafodd dynes a thri dyn arall hefyd eu hanafu.

Roedden nhw’n rhan o grŵp o bobl oedd yn sgïo y tu hwnt i’r llethrau sgïo arferol pan gawson nhw eu dal yn y cwymp eira.

Mae’r chwilio am ragor o bobl bellach wedi dod i ben gan fod pob aelod o’r grŵp wedi cael eu darganfod erbyn hyn.

Mae mwy na dwsin o bobl wedi marw mewn cwympiadau eira yn yr Alpau yn Ffrainc eleni.