Mae degau o filoedd o bobol wedi ymgasglu ger y Fatican i glywed neges Pasg y Pab Ffransis heddiw.

Yn gynharach heddiw, ymddangosodd neges ar ei gyfrif Twitter yn dweud: “Caiff ein ffydd ei eni ar fore’r Pasg: mae’r Iesu’n fyw! Mae’r profiad wrth galon y neges Gristnogol.”

Mae blodau’n addurno Sgwâr San Pedr ar drothwy neges flynyddol ‘Urbi et Orbi’ y Pab oddi ar falconi’r Basilica.

Mae mesurau diogelwch llym yn eu lle ar gyfer y digwyddiad, a strydoedd cyfagos ynghau i draffig.