Mae llefarydd ar ran lluoedd arfog Israel wedi dweud y bydd y wlad yn ymateb yn fwy llym pe bai gwrthryfelwyr yn parhau i ymosod o ffin Gaza.

Dywedodd y Cadfridog Ronen Manelis fod yr ymateb wedi bod yn prin iawn hyd yma, ond y byddai’n cynyddu’r ymateb hwnnw yn sgil rhagor o ymosodiadau.

Fe orymdeithiodd miloedd o drigolion Palesteina i’r ffin rhwng Gaza ac Israel ddydd Gwener yn y gwrthdystiad mwyaf dros y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd pymtheg o Balesteiniaid eu lladd gan luoedd Israel ar ddiwrnod cynta’r gwrthdaro allai bara hyd at chwe wythnos yn ôl Hamas.

Hwn oedd y diwrnod mwyaf gwaedlyd ar ffin Gaza ers 2014.