Mae sylfaenydd gwefan WikiLeaks – sy’n byw yn llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain ers 2012 – wedi cael ei wahardd rhag mynd ar y We.

Fe ddaw wedi iddo bostio neges ar wefan gymdeithasol Twitter ynglŷn ag arestiad cyn-arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont, yn yr Almaen yr wythnos hon.

“Yn 1940 mi wnaeth arlywydd etholedig Catalwnia, Lluis Companys, gael ei ddal gan y Gestapo, dan gais Sbaen, â’i hanfon atyn nhw i gael ei ddienyddio,” meddai Julian Assange yn ei neges, cyn ychwanegu: “Heddiw, mae heddlu Almaenaidd wedi arestio arlywydd etholedig Catalwnia, Carles Puigdemont, ar gais Sbaen, er mwyn cael ei estraddodi.”

Fe ofynnodd Ecwador iddo ddileu’r neges, ond fe wrthododd Julian Assange wneud hynny. Wedyn, fe gafodd ei fynediad at y We fyd-eang ei wahardd, ynghyd â’r hawl i groesawu a chyfarfod ag ymwelwyr i’r llysgenhadaeth.

Hyd yma mae miloedd o bobol wedi lleisio’u gwrthwynebiad at y penderfyniad, yn cynnwys cyn-brif weinidog Groeg, Yanis Varoufakis, a’r cerddor, Brian Eno.