Mae Daesh wedi dweud mai nhw oedd yn gyfrifol am gipio a lladd deg o blismyn yn Irac.

Cafodd lluniau eu cyhoeddi ar y we nos Sadwrn yn dangos wyth dyn mewn dillad cyffredin ar eu gliniau a dryllau yn eu cefnau.

Mae llun arall yn dangos dau ddyn wedi’u hamgylchynu gan ddynion â chyllyll.

Dywedodd plismyn heddiw fod naw o aelodau’r heddlu wedi’u cipio ddydd Mawrth gan wrthryfelwyr oedd wedi’u gwisgo yng ngwisg y lluoedd arfog.

Cafodd tacsi ei stopio ar y ffordd rhwng taleithiau gogledd Kirkuk a Salaheddin cyn iddyn nhw gael eu cipio.