Mae tri wedi’u lladd a dwsin wedi eu hanafu yn ystod ymosodiad gyda gwn mewn archfarchnad yn ne Ffrainc.

Cafodd pobol eu dal yn wystlon yn y siop yn nhref Trebes, ond mae’n bosib bod yr unigolion yma wedi ffoi.

Mae cymhelliad yr ymosodwr yn ddirgel, ond mae Prif Weinidog Ffrainc, Edouard Philippe, wedi awgrymu mai “gweithred frawychol” oedd hi.

Yn ôl rhai adroddiadau sydd heb eu dilysu, roedd gan yr ymosodwr gysylltiad â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Beth ddigwyddodd?

I ddechrau, gwnaeth yr ymosodwr danio chwe gwaith at swyddogion heddlu oedd wedi bod yn loncian ger dinas Carcassonne.

Gwnaeth un swyddog gael anaf i’w ysgwydd, ond doedd yr anaf ddim yn ddifrifol.

Yna aeth yr unigolyn i archfarchnad Super U yn nhref Trebes, sydd 60 milltir i dde ddwyrain Toulouse, a pharhau â’i ymosodiad.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, mae ymgyrch bellach ar droed i ddal yr unigolyn sy’n gyfrifol.